Mae Kaleidoscop yn cefnogi marc 'Buddsoddwyr yn y Gymraeg' gan lynu at yr egwyddorion o safonau gorau posibl. Golyga hyn y bydd arwyddion newydd i gyd yn ddwyieithog. Atebir llythyron trwy gyfrwng y Gymraeg yn ol dymuniad y cwsmer. Bydd mwy o'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth farchnata ac hysbysebu yn y dyfodol yng Nghymru. 'Rydym yn benderfynol o ddatblygu a gwella ein gwybodaeth am y cwmni a'r strategaeth farchnata trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.