Why is the Welsh Language declining in use despite efforts to reverse this trend by Welsh Government, and more importantly, does it matter?
Many people would argue it does not matter, in a world where there is ever more globalisation would it not be easier to just have English. The towers of globalisation are there for us all to see on our High Streets, be that in Cardiff, London, Paris, Delhi, or Istanbul you will find American McDonalds, or British Costa Coffee.
The world is a smaller place and the inevitable consequence of this is that the identity of individual countries will be lost. In many ways we are undergoing colonisation, as we saw with the British and Spanish empires, although this time it is economic rather than through militarily means.
In colonisation we have seen the importance of imposing language, be that in the USA, Australia or with Spanish in South America. The risk to those losing their language is a loss of cultural and political awareness.
A linguist and language activist Leanne Hinton states:
“The decline of linguistic diversity in the world is linked to the world political economy which invades and takes over the territories of indigenous peoples, threatens the ecosystems in which they live, wipes out their traditional means of livelihood, and (at best) turns them into low-caste labourers in the larger society in which they must now live on the margins.’’
Language and culture are inseparable, as Hawaiian activist and hula master Keali’i Reichel explains in Language Matters:
We know that a language is how a particular culture and people interact with the world around them and with each other. And if you lose a language, then you lose a huge chunk of that culture…. We would lose everything. There is no culture without language. There is none. Because otherwise we would be speaking in a language that is not who we are and who we came from.
http://www.languagemattersfilm.com/educational-resources/why-language-matters/
I remember studying Philosophy and language. One example used was colours, and how in English we say Green, while in Japanese it is Greening. English likes to be precise, even when actually there are various versions of Green where Japanese like to show the ambiguity. The language we use influences how we even see a colour; it can be more significant when looking at wider issues.
The Welsh language has suffered due to historical discrimination. The concerns of the English political establishment were shown in the 1847 Royal Commission on Welsh education, which reported that, “The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people. It is not easy to over-estimate its evil effects.” As a result, English-only schools were set up in much of Wales, and children speaking Welsh were punished with the “Welsh Not“.
Language and Welsh Culture are seen as many other indigenous populations, as being inferior by the dominant tradition.
The Times newspaper wrote in 1866; “Wales… is a small country, unfavourably situated for commercial purposes, with an indifferent soil, and inhabited by an unenterprising people. It is true it possesses valuable minerals but these have chiefly been developed by English energy and for the supply of English wants.”
The British Prime Minister H. H. Asquith said in 1905, “I would sooner go to hell than to Wales.” Whilst one of Evelyn Waugh‘s characters in the novel Decline and Fall (1928) was made to say, “From the earliest times the Welsh have been looked upon as an unclean people. It is thus that they have preserved their racial integrity. Their sons and daughters rarely mate with human-kind except their own blood relations….. I often think that we can trace almost all the disasters of English history to the influence of Wales.”
The belittling of alternative cultures could be said to be an issue of the past but it still exists in our modern era – https://www.spectator.co.uk/2009/07/mocking-the-welsh-is-the-last-permitted-bigotry/#
Recent examples of anti-Welsh sentiment in the media include the journalist A. A. Gill (born in Scotland to English parents) who in the Sunday Times in 1997 described the Welsh as “loquacious, dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls.”The English writer A. N. Wilson said, “The Welsh have never made any significant contribution to any branch of knowledge, culture or entertainment. They have no architecture, no gastronomic tradition, no literature worthy of the name.” (Evening Standard, 1993).
In October 2010, Rod Liddle, an associate editor of The Spectator magazine, described Welsh nationalists as, “miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill-tribes”. https://en.wikipedia.org/wiki/Cultural_relationship_between_the_Welsh_and_the_English
In the 1992 election Neil Kinnock, the Labour Leader, fought to be the Prime Minister. There can be little doubt that the fact he was Welsh went against him in England. “The tabloid case put in The Sun and in which the key “Basildon” voters articulated it. Kinnock, the caricature, was a Welsh windbag who had no principles and was unfit to be a prime minister because he did not look, sound or carry himself like one.” https://www.timeshighereducation.com/books/defence-of-welsh-windbag/171485.article#survey-answer
The discrimination of Welsh people in public life, as well as a version of Wales as being inferior, is one that at best is under the surface. The Welsh Economy has struggled, which for some has demonstrated inferiority; however resources such as water have forcibly been given away. Investment in Wales has been significantly less with the Barnett formula been sited. To make a case for Wales being a weak economy, with a declining language and culture ensures that resistance to English dominance is reduced.
So Wales need fair investment and a pride in itself if it is to move forward. The use of the Welsh language is seen as a corner stone of this.
In the Guardian recently there was an interview with the Welsh Language Commissioner Meri Huws, who spoke of her vision of a Wales where speakers had the confidence to use the language and trust in the law to rectify any prejudice. Strikingly, Huws signalled she would step in if employees in small businesses were denied the freedom to speak Welsh at work. She gave the scenario of two hairdressers who were speaking Welsh together and a third insisting they speak English because he or she could not understand.
“In that situation the third colleague has interfered with the other two’s freedom to use the Welsh language,” said Huws. The Welsh speakers could complain to the commissioner and she could investigate. https://www.theguardian.com/uk/2012/apr/08/wales-language-commissioner-welsh-speakers
The following facts relate to the Welsh Language;
- Until the mid-1800s, more than 80% of people in Wales could speak Welsh.
- According to the Welsh government, there are now580,000 people in Wales who can speak the language – about 21% of the population.
- Language use surveys carried out between 2004 and 2006 suggested that 56% of all fluent Welsh speakers, in every age group, lived in four counties; Anglesey, Gwynedd, Ceredigion and Carmarthenshire.
And as for me, an English immigrant to Monmouthshire, Wales, I must try harder to learn at least some Welsh and at the workplace do what I can to champion the language.
————————————————————————————————————————————————————————————————————————————–
Pam bod sefyllfa’r Iaith Gymraeg yn dirywio er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i wrthdroi hyn, ac yn bwysicach fyth, a oes ots?
Byddai nifer o bobl yn dadlau nad oes ots, ac mewn byd lle y gwelir mwy fyth o globaleiddio, onid y byddai hi’n haws cael Saesneg yn unig. Mae tyrau globaleiddio yn amlwg ar ein Strydoedd Mawr, a boed hynny yng Nghaerdydd, Llundain, Paris, Delhi, neu Istanbwl, byddwch yn gweld McDonalds o America neu Goffi Costa o Brydain.
Mae’r byd yn mynd yn llai a chanlyniad anochel hyn yw y bydd hunaniaeth gwledydd unigol yn cael ei cholli. Mewn sawl ffordd, rydym yn mynd trwy broses o wladychu, fel y gwelsom gyda’r ymerodraethau Prydeinig a Sbaenaidd, ond y tro hwn, mae’n digwydd mewn ffordd economaidd yn hytrach na ffordd filwrol.
Gyda gwladychu, rydym wedi gweld pwysigrwydd yr iaith ymwthiol, boed hynny yn UDA, Awstralia neu gyda Sbaeneg yn Ne America. Y risg i’r rhai sy’n colli eu hiaith yw y byddant yn colli ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol.
Mae Leanne Hinton, ieithydd ac ymgyrchydd iaith, yn nodi:
“Mae dirywiad amrywiaeth ieithyddol yn y byd yn gysylltiedig ag economi gwleidyddol y byd, sy’n ymwthio ac yn cymryd drosodd tiriogaethau pobl brodorol, gan fygwth yr ecosystemau y maent yn byw ynddynt, chwalu eu ffyrdd traddodiadol o gael bywoliaeth, ac sydd (ar y gorau) yn eu troi’n llafurwyr dosbarth isel yn y gymdeithas fwy y mae’n rhaid iddynt fyw ynddi nawr ar y cyrion.”
Ni ellir gwahanu iaith a diwylliant, fel y mae’r ymgyrchwr a’r meistr hwla o Hawaii, Keali’i Reichel, yn esbonio yn Language Matters:
Rydym yn gwybod mai iaith yw’r ffordd y mae diwylliant a phobl penodol yn rhyngweithio â’r byd o’u cwmpas a gyda’i gilydd. Ac os byddwch yn colli iaith, byddwch yn colli rhan enfawr o’r diwylliant hwnnw…. Byddem yn colli popeth. Nid oes diwylliant heb iaith. Nid oes yr un. Oherwydd fel arall, byddem yn siarad iaith nad yw’n ein cynrychioli ni a’r lle yr ydym yn dod ohono.
http://www.languagemattersfilm.com/educational-resources/why-language-matters/
Cofiaf astudio Athroniaeth ac iaith. Un enghraifft a ddefnyddiwyd oedd lliwiau, a’r ffordd yr ydym yn dweud Gwyrdd yn Gymraeg, ond yn Japaneg defnyddir y gair Gwyrddu. Mae’r Gymraeg yn hoffi bod yn fanwl, hyd yn oed pan geir fersiynau amrywiol o Gwyrdd, ac mae’r Japaneg yn hoffi dangos yr amwysedd. Mae’r iaith a ddefnyddiwn yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweld lliw hyd yn oed; gall fod yn fwy arwyddocaol wrth ystyried materion ehangach.
Mae’r iaith Gymraeg wedi dioddef o ganlyniad i wahaniaethu hanesyddol. Dangoswyd pryderon y sefydliad gwleidyddol Seisnig yng Nghomisiwn Brenhinol 1847 ynghylch addysg yng Nghymru, a adroddodd “Mae’r iaith Gymraeg yn anfantais fawr i Gymru ac yn rhwystr amryfal i gynnydd moesol a ffyniant masnachol y bobl. Nid yw hi’n hawdd goramcangyfrif ei heffeithiau drwg.” O ganlyniad, sefydlwyd ysgolion Saesneg yn unig yn y rhan fwyaf o Gymru, a chosbwyd plant am siarad Cymraeg trwy ddefnyddio’r “Welsh Not“.
Yn yr un modd â’r hyn a welir mewn nifer o boblogaethau brodorol eraill, ystyrir yr Iaith a’r Diwylliant Cymreig fel rhywbeth israddol gan y traddodiad gorbwysol.
Ysgrifennodd papur newydd The Times ym 1866; “Mae Cymru… yn wlad fach mewn lleoliad anffafriol at ddibenion masnachol, gyda phridd gweddol, ac mae ei phobl yn anfentrus. Mae’n wir bod ganddi fwynau gwerthfawr, ond mae’r rhain wedi cael eu datblygu gan egni Seisnig yn bennaf, ac er mwyn cyflenwi anghenion Seisnig.”
Dywedodd Prif Weinidog Prydain H. H. Asquith ym 1905, “Byddai’n well gennyf fynd i uffern na mynd i Gymru.” A gorfodwyd un o gymeriadau Evelyn Waugh yn nofel Decline and Fall (1928) i ddweud, “O’r cyfnod cynharaf, ystyriwyd y Cymry yn bobl brwnt. Dyna sut y maent wedi diogelu eu cyfanrwydd hiliol. Anaml y bydd eu meibion a’u merched yn paru â bodau dynol ac eithrio’u perthnasau gwaed eu hunain…. Yn aml, credaf y gallwn olrhain bron pob trychineb yn hanes Lloegr yn ôl i ddylanwad Cymru.”
Gellid dweud bod bychanu diwylliannau amgen yn rhywbeth a arferai ddigwydd yn y gorffennol, ond mae’n bodoli yn ein hoes fodern ni o hyd – https://www.spectator.co.uk/2009/07/mocking-the-welsh-is-the-last-permitted-bigotry/#
Mae enghreifftiau a welwyd yn ddiweddar o deimladau gwrth-Gymreig yn y cyfryngau yn cynnwys y newyddiadurwr A. A. Gill (ganwyd yn yr Alban i rieni Seisnig) a ddisgrifiodd y Cymry ym mhapur newydd Sunday Times ym 1997 fel “tafotrydd, rhagrithwyr, celwyddgwn anfoesol, ellyllon bach corachaidd, cul, tywyll, salw ac ymladdgar.” Dywedodd yr awdur Seisnig A. N. Wilson, “Nid yw’r Cymry fyth wedi gwneud unrhyw gyfraniad arwyddocaol i unrhyw gangen gwybodaeth, diwylliant neu adloniant. Nid oes ganddynt unrhyw bensaernïaeth, dim traddodiad gastronomegol, dim llenyddiaeth gwerth sôn amdano.” (Evening Standard, 1993).
Ym mis Hydref 2010, roedd Rod Liddle, golygydd cyswllt cylchgrawn The Spectator, wedi disgrifio cenedlaetholwyr Cymreig fel “llwythau truenus o’r bryniau gyda wynebau wedi’u gwasgu, sy’n poeni defaid ac sy’n bwyta gwymon”. https://en.wikipedia.org/wiki/Cultural_relationship_between_the_Welsh_and_the_English
Yn etholiad 1992, roedd Neil Kinnock, yr Arweinydd Llafur, yn brwydro er mwyn cael bod yn Brif Weinidog. Heb os, roedd y ffaith mai Cymro ydoedd wedi mynd yn ei erbyn yn Lloegr. “Cyflwynwyd yr achos tabloid ym mhapur newydd The Sun ac roedd pleidleiswyr allweddol “Basildon” wedi’i fynegi. Roedd Kinnock, y caricatur, yn baldaruwr o Gymru heb unrhyw egwyddorion, ac nid oedd yn addas i fod yn brif weinidog gan nad oedd yn edrych fel un, yn swnio fel un nac yn ymddwyn fel un.” https://www.timeshighereducation.com/books/defence-of-welsh-windbag/171485.article#survey-answer
Mae gwahaniaethu yn erbyn pobl o Gymru mewn bywyd cyhoeddus, yn ogystal â fersiwn o Gymru fel gwlad israddol, yn un sydd dan y wyneb ar y gorau. Mae Economi Cymru wedi cael anawsterau, sydd wedi dangos israddoldeb i rai, fodd bynnag, mae adnoddau fel dŵr wedi cael eu rhoi i ffwrdd trwy rym. Mae’r buddsoddiad yng Nghymru wedi bod llawer yn is o ganlyniad i fformwla Barnett. Mae cyflwyno’r achos bod Cymru’n wlad sydd ag economi gwan ac iaith a diwylliant sy’n dirywio yn sicrhau bod y gallu i wrthsefyll goruchafiaeth Seisnig yn lleihau.
Felly mae angen buddsoddiad teg ar Gymru a balchder yn ei hun i symud ymlaen. Ystyrir bod defnyddio’r iaith Gymraeg yn un o gonglfeini hyn.
Ym mhapur newydd y Guardian yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfweliad gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a soniodd am ei gweledigaeth hi i Gymru, lle y mae gan siaradwyr yr hyder i ddefnyddio’r iaith ac i ymddiried yn y gyfraith i unioni unrhyw ragfarn. Mae’n drawiadol bod Huws wedi nodi y byddai hi’n gweithredu pe byddai cyflogeion mewn busnesau bach yn cael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Rhoddodd sefyllfa lle y byddai dau driniwr gwallt yn siarad Cymraeg a thrydydd un yn mynnu eu bod yn siarad Saesneg gan nad oedd ef neu hi yn gallu eu deall.
“Yn y sefyllfa honno, mae’r trydydd cydweithiwr wedi tarfu ar ryddid y ddau arall i ddefnyddio’r iaith Gymraeg,” dywedodd Huws. Gallai’r siaradwyr Cymraeg gwyno i’r comisiynydd a gallai hi ymchwilio i’r mater. https://www.theguardian.com/uk/2012/apr/08/wales-language-commissioner-welsh-speakers
Mae’r ffeithiau canlynol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg;
- Tan canol y 1800au, roedd dros 80% o’r bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.
- Yn ôl llywodraeth Cymru, erbyn hyn, ceir 580,000 o bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad yr iaith – tua 21% o’r boblogaeth.
- Roedd arolygon defnydd iaith a gynhaliwyd rhwng 2004 a 2006 yn awgrymu bod 56% o’r holl siaradwyr Cymraeg rhugl, ym mhob grŵp oedran, yn byw mewn pedair sir; Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Ac i mi, mewnfudwr o Loegr sy’n byw yn Sir Fynwy, rhaid i mi wneud mwy o ymdrech i ddysgu o leiaf rhywfaint o Gymraeg, gan wneud yr hyn y gallaf i hyrwyddo’r iaith yn y gweithle.
Comments are closed.