Cysylltu

Nid ydym yn barnu wrth gynnig cymorth. Gallwch estyn allan atom heddiw er mwyn cael dyfodol mwy disglair yn eich cymuned.

Darllenwch fwy

Newyddion a Safbwyntiau

Mae Kaleidoscope yn rym er mwyn sicrhau newid cymdeithasol. Rydym yn siarad o blaid hawliau pobl sy'n defnyddio cyffuriau ac yn gweithio i roi terfyn ar stigma.

Darllenwch fwy

Straeon

Mae'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn cyflawni pethau rhyfeddol. Darllenwch am eu teithiau am ysbrydoliaeth.

Darllenwch fwy

Gwasanaethau

Gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau, rheoli defnydd cyffuriau ac alcohol, cynnal adferiad a sicrhau cyflogaeth a rhywle i fyw.

Darllenwch fwy

Pwy yw Kaleidoscope?

Heddiw, mae Kaleidoscope yn cynnal prosiectau defnyddio sylweddau ar draws Cymru, gan gynorthwyo dros 10,000 o bobl y flwyddyn, ond mae ein stori yn cychwyn yn Kingston upon Thames.  Mae’n 1968 ac mae cyffuriau a rhyw yn ffasiynol iawn.  Arferai tafarndai gau eu drysau am 11pm, byddai aflonyddwch yn y strydoedd a byddai ysgarmesoedd mawr yn datblygu.  Roedd angen lle diogel i bobl ifanc Kingston ymgynnull.

Y lle hwnnw fyddai Kaleidoscope, a sefydlwyd mewn eglwys drefol.  Roedd yr enw yn adlewyrchu’r darnau drylliog o ddiwylliant ieuenctid yn dod ynghyd, boed yn fods, rocers, tedi bois, hipis neu Angylion Uffern – roedd croeso i bawb yn Kaleidoscope.

Darganfyddwch fwy
mixcontent image
mixcontent image
Dyma Cullan

“Penderfynais droi at heroin er mwyn ymdopi ag OCD – rydw i'n dymuno helpu eraill nawr.”

Mae Cân Pêl ar yn cael ein mesurion optolau newydd o'r enw Buvidal ac gcoinne hyn, nid yw wedi cael heroin er wyth mis. Ers yn ogystal, mae wedi bod yn pod pod Y Clwb Canolog er mwynchanu'r modd i o ad adfyd.

Darllen mwy

"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n cael anhawster gyda'u defnydd o alcohol i ganolbwyntio ar y pethau gwych yn eu bywyd.”

Roedd Kathleen o Gasnewydd wastad wedi mwynhau diod, ond bu ar lethr llithrig yn ystod y cyfnod clo, lle y treuliodd gyfnod yn yr ysbyty ac ni allai gerdded. Bellach, nid yw Kathleen wedi cael alcohol er pedwar mis ac mae'n bwrw golwg yn ôl dros flwyddyn hynod o heriol.

Darllen mwy

"Roedd y gweithdai cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar feddwl mewn ffordd gadarnhaol a llwyddais i oresgyn rhai credoau cyfyngol am yr hyn y gallwn ei wneud.”

Llwyddodd i sicrhau cyflogaeth ar gyflog gyda chymorth Cyfle Cymru, dair wythnos cyn i'r cyfnod clo droi bywyd gwaith ar ei ben.

Darllen mwy

"Roedd cryn dipyn o drawma nad oeddwn wedi ei brosesu, ac roedd y Tramadol yn golygu nad oedd yn rhaid i mi wneud hynny."

Diolch i'w phenderfyniad a'r cymorth cywir, mae Jade wedi llwyddo i oresgyn degawd o gaethiwed i cyffuriau presgripsiwn i ladd poen. Bellach, mae'n sobor er pymtheg mis ac mae hi'n edrych ymlaen i'r dyfodol.

Darllen mwy

A ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth?  Ymunwch â ni

Mae ein timau yn gwneud gwaith ysbrydoledig ar draws y wlad, i wella bywydau pobl sy’n cael anhawster wrth ddelio gyda chaethiwed.

Mae 96% o’n staff yn teimlo’n falch o’r ffaith eu bod yn gweithio i Kaleidoscope – sy’n tystio i’r perthnasoedd gwych sydd gennym gyda’n cymuned, ein partneriaid a’r bobl yr ydym yn eu helpu!

Gweler Swyddi Gwag
mixcontent image

Cysylltu